Tudalen:Roosevelt.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ryfela diymatal gyda'r swbmarin. Peryglodd hyn yn fwriadol nid yn unig nwyddau America-gwnaeth y blocâd Prydeinig hynny-ond peryglodd linellau marsiandiaeth America hefyd. Bu ymrysonau cyson rhwng llywodraeth America a llywodraeth Prydain ynghylch rhyddid y moroedd. Yn wir, yr oedd y berthynas ddiplomataidd yn 1916 yn waeth o lawer rhwng y ddwy lywodraeth hon nag ydoedd rhwng yr Unol Daleithiau a'r Pwerau Canol. Ym mis Mai, 1916, rhoes yr Almaen sicrwydd i Wilson y rheolid rhyfela gyda'r swbmarin yn unol â deddf gydwladol. Yn Ionawr, 1917, penderfynodd Llywodraeth Ymherodrol yr Almaen mai mewn ymgyrch ddiymatal gyda'r swbmarin yr oedd eu gobaith gorau am oruchafiaeth.

Yr oedd hyn yn fwy nag y medrai America ei oddef. Yng ngeiriau'r Cwnsler Ellmynig yn Embasi Washington, mewn llythyr i'w lywodraeth, Ni fentrai unrhyw lywodraeth nac unrhyw blaid, heb gyflawni hunan-laddiad gwleidyddol, roi ffordd i'r Almaen ar y cwestiwn hwn wedi i America ddatgan mor bendant yr hyn, yn ei barn hi, a gyfansodda ei hawliau cydwladol. ni allai yr apostolion heddwch mwyaf selog oddef y cyhuddiad eu bod mewn ystyr wedi rhoddi trwydded i'r Almaen labyddio Americaniaid yn y dyfodol ben bwy'i gilydd." Rhoes Wilson ei Genadwri Rhyfel o flaen y Gynhadledd ar yr ail o Ebrill, 1917. Ni all rhwyg cyffelyb ddigwydd yn yr un ffurf heddiw. Pasiwyd mesurau yn yr Unol Daleithiau yn y blynyddoedd 1935-39 a olygai iddi ollwng gafael mewn gwirionedd ar ryddid y moroedd, ac ymddihatru yn wirfoddol oddi wrth unrhyw fasnach a allai ei dwyn i wrthdarawiad â gwledydd ereill. Dyma gyfnewidiad cyrhaeddgar mewn polisi, a