Tudalen:Roosevelt.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phwysig iawn yw gweld sut y digwyddodd, a pha mor gyson y mae'n debyg o gael ei ddefnyddio.

Dylid cofio nad ymgadwodd America yn gwbl glir oddi wrth ymdrechion gweddill y byd i gyfeiriad "diogelwch cytûn" (collective security). Cymerodd ran mewn trafod diarfogiad ac awgrymodd yn glir, pe gellid cwblhau cytundeb i ddiarfogi, odid nad ail-ystyriai hithau ei safle fel gwlad anghyfranogol. Yr oedd Pact Briand-Kellog yn 1928 yn rhan ddeisyf-feddwl y cyfnod, eithr mor ddiweddar a 1932 atgofiodd Henry Stimson, Ysgrifennydd Gwladol o dan Hoover, ei wlad o'i rhwymedigaethau o dan y pact. Pan ddechreuodd y rhyfel yn Manchuria, fodd bynnag, a gwrthod o'r Pwerau Gorllewinol weithredu, ar waethaf cynnig Stimson i gydweithredu, gwnaethpwyd yn glir na ellid dibynnu ar y foeseg newydd mewn perthnasau cydwladol. Erbyn 1914 troesai Americaniaid oddi wrth ddiogeliadau cydwladol cyffredinol, ac ymroesant i ddeffinio eu safle eu hunain mewn perthynas â rhyfeloedd ereill i ddod.

Seiliwyd y ddeddfwriaeth a ddilynodd ar y rhagdyb mai diddordeb pennaf yr Unol Daleithiau ydoedd ymgadw rhag rhyfel. Y mae, wrth gwrs, yn agored i amheuaeth, a dweud y lleiaf, a yw hyn yn wir fel mater o ffaith, ac yn achos y rhyfel rhwng Sina a Siapan, dychwelodd yr Unol Daleithiau at wleidyddiaeth bwerol mor bell ag ochri gyda Sina, gan adael deddfwriaeth anghyfranogiaeth yn llythyren farw. Ni ddefnyddiwyd Mesur Anghyfranogiaeth oherwydd y golygai hynny, yn amlwg, gynorthwyo Siapan. Y mae amcan datganiedig y ddeddfwriaeth yn glir fodd bynnag. Y ddeddf gyntaf ydoedd Mesur Johnson, yn 1934, yn anghyfreithloni caniatau benthyciadau i unrhyw lywodraeth na chyflawnodd