Tudalen:Roosevelt.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei rhwymedigaethau blaenorol, gan gynnwys felly brif bwerau Ewrop. Dilynwyd hyn gan Fesur Angyfranogiaeth yn 1935, a ddiwygiwyd yn 1936, a ail-ddeddfwyd fel Mesur Anghyfranogiaeth 1937, ac a newidiwyd ymhellach yn Nhachwedd, 1939, i ail-gynnwys y cymalau yn ymwneud â thâl a cludiad' a dirymiad yr adran yn ymwneud ag Embargo ar Arfau Rhyfel. Nid oes a wnelo'r mesurau anghyfranogol hyn, fel eu gelwir, ddim oll âg anghyfranogiaeth mewn cyfraith gydwladol. Deddfau hunan-osodedig ydynt i gyfyngu masnach America ar adeg rhyfel. Gorchwyl hir a fyddai eu hastudio yn fanwl, eithr y rhain yw'r prif bwyntiau:—

Y mae'n anghyfreithlon wedi i'r Arlywydd hysbysu fod rhai gwledydd mewn cyflwr rhyfel,

(a) i longau America fordwyo yn amgylchoedd y rhyfel,

(b) i ddinasyddion America hwylio ar longau gwledydd ymladdol,

(c) cludo nwyddau a fwriedir ar gyfer gwladwriaethau ymladdol, ac i'r nwyddau adael yr Unol Daleithiau hyd oni throsglwyddir pob diddordeb ynddynt i'r pwrcaswyr,

(ch) i Americaniaid fenthyg er mwyn denu cyfraniadau at, neu bwrcasu, gwerthu neu gyfnewid rhwymedigiaethau (bonds) neu ddiogeliadau (securities) oddi wrth unrhyw wladwriaeth ymladdol neu berson yn gweithredu cyfryw, os trefnir wedi'r hysbysiad, gan eithrio yn wastad arian a fwriedir at amcanion dyngarol.

Gorffwysai Embargo ar Arfau ar y gwahaniaeth di-sail, a nodwyd gan Jefferson, rhwng yr hyn a elwir yn adnoddau rhyfel a nwyddau ereill llawn mor anhepgorol; tueddai i fod yn anfanteisiol hefyd i wneuthurwyr cynhyrchion