Tudalen:Roosevelt.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorffenedig. Fe'i dirymwyd yn rhannol oherwydd treiglo masnach gwneuthurwyr America i Ganada, ac yn rhannol oherwydd profi o ryfeloedd Ethiopia ac Ysbaen fod gwahardd allforiad nwyddau rhyfel yn cefnogi'r gwledydd a grynhoisai arfau eisoes, neu a allai eu cael o ffynonellau ereill. Y mae hunan-gyfyngiadau America, hyd yn oed wedi dirymiad yr Embargo ar arfau, yn gynhwysfawr iawn.

A yw yn debyg o lynu wrth y mesur hunan-ymwadol hwn, neu a ddiryma ragor eto? Dibynna hyn ar ddatblygiadau economaidd sy'n anodd eu rhagweld. Nid oes amheuaeth nad yw America yn llai dibynnol ar fasnach dramor heddiw nag ydoedd yn 1914. Tucdda polisi Roosevelt yntau mewn rhai agweddau pwysig i gyfeiriad hunan-ddigonolrwydd helaethach. Newidiodd cymeriad masnach allforol America a bu newid cyfatebol yn ei dylanwad. Lleihaodd allforiad cotwm yn arbennig o tua wyth miliwn a hanner o gydynau yn 1913 i bum miliwn a hanner yn 1937, a lleihaodd allforiad gwenith a blodiau o gant a phymtheg a deugain miliwn o Iwsielau yn 1913 i un miliwn ar hugain yn 1937. Y mae i hyn gryn bwysigrwydd gwleidyddol. Y mae cynrychiolwyr rhandiroedd gwenith a chotwm yn y Gynhadledd yn ffurfio cyfuniadau cydryw a dylanwadol. Y mae'r Senedd, yn arbennig, yn gŵyro yn drwm at ochr y taleithiau amaethyddol, a fedd gymaint o gynrychiolwyr â'r taleithiau diwydiannol llawer mwy poblog. Ni sieryd y ffatrïwyr a'r diwydianwyr, sydd fwyaf eu diddordeb yn y fasnach dramor, ag un llais, ac nid ydynt mor effeithiol yn wleidyddol. Rhwystrwyd yr amaethwr o'r Gorllewin Canol yn ddirfawr ar ôl ymehangiad diwydiannol y rhyfel diwethaf. Ni chwennych ef ailadrodd y broses.