Tudalen:Roosevelt.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y llaw arall, nid oes amheuaeth na bydd byd busnes,' a fu yn anesmwytho o dan gyfyngiadau'r Fargen Newydd, yn edrych i gyfeiriad y rhyfel am gyfle i gyflenwi ei golledion. Ynganodd Roosevelt y rhybuddion pendantaf posibl yn erbyn yr aur ffôl' a ddeillia o ffyniant gau, eithr y mae ei safle wleidyddol ef ei hun yn bur ansicr, ac efallai y gorfodir ef i blygu i ddiddordebau byd busnes neu gael ei ddisodli ganddynt. Ni olygai hyn, wrth gwrs, yr ymunai erica â'r rhyfel o angenrheidrwydd fel gwlad ymladdol, ond fe allai roddi cynhorthwy sylweddol. Datgan Newton D. Baker, Ysgrifennydd Rhyfel yng Nghabinet Wilson, ei farn bendant na ddylanwadodd gwneuthurwyr adnoddau rhyfel a nwyddau ereill, nemor ddim ar benderfyniad yr Unol Daleithiau i ddod i mewn i'r rhyfel diwethaf. Mor ddiweddar â 1934, fodd bynnag, syfrdanwyd y farn gyhoeddus gan ddatguddiadau pwyllgor Nye a fu'n chwilio i mewn i wneuthuriad arfau: bydd y farn gyhoeddus yn bur amheus o unrhyw dwyll-resymeg o du byd busnes pan bleidia achos ffyniant America neu pan gymer ran pobloedd gorthrymedig Ewrop.

Dylid cofio wrth ystyried ymagweddiad Americaniaid at ryfel i'r haen efengylaidd ynddynt, a allasai ymateb i apêl 'rhyfel gyfiawn,' oddef dadrithiad llwyr fel canlyniad y rhyfel diwethaf. Y mae'r dadrithio hwn, wrth gwrs, yn un cyffredinol, eithr fe ddaeth i ran America yn gymharol ddiweddar. Bu'r cyfnod 1920-29 yn America yn gyfnod ffyniant mawr gartref a difrawder ynglŷn â materion tramor. Ni ddechreuodd America ddadansoddi cyn cyfnod y dirwasgiad. Nodwedd o'r blynyddoedd 1934-7, ac nid o gyfnod dengmlwydd yn gynharach fel yn Ewrop ydoedd yn dilyw