Tudalen:Roosevelt.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llyfrau ar paham yr aethom i ryfel' yn America. Y mae'r ymarchwiliad hwn, gyda'i ddadleniad o ddelfrydiaeth, yn rhy agos at y rhai nad ydynt mewn perygl uniongyrchol iddynt dderbyn ddadleuon dros gyfranogi mewn rhyfel drachefn mewn tymer anfeirniadol.

Y mae llawer o Americaniaid yn drwgdybio Ewrop. Wedi'r cyfan, fe adawodd llawer o'u hynafiaid yr Hen Fyd mewn diflastod a chyrchu gwlad well. Er cymaint eu hatgasedd at y gwladwriaethau totalitaraidd, teimlant nad yw'r gweriniaethau uwchlaw beirniadaeth. Ni bu eu hymarweddiad hwythau yn ddifrycheulyd er y rhyfel diwethaf, ac y mae olion imperialaeth yn glynu wrthynt. Setlwyd problem Iwerddon, eithr fe erys India. Beth hefyd a wnant mewn Fersai arall? Amheua anobeithwyr, fel Charles A. Beard, prif hanesydd America, a all unrhyw wleidydd Americanaidd neu Ewropeaidd 'dacluso Ewrop,' felly, pa raid sydd i America wastraffu gwaed a chyfoeth?

Nid oes erbyn hyn gymaint grym mewn rhai syniadau a fu ar led yn America, megis y dylai'r Pwerau Cynghreiriol dalu eu dyledion rhyfel ac na werthfawrogwyd ymdrech America yn ddigonol yn y rhyfel diwethaf. Y mae i'r syniadau hyn eto beth dylanwad. Y mae teimlad dwfn, fodd bynnag, a adleisiwyd gan Roosevelt yn ei anerchiad ym Medi 21, 1939, mai dyletswydd America yw ymgadw rhag y terfysgoedd gwleidyddol sy'n amharu cynnydd mewn gwledydd ereill. Eithr fe newidiodd yr amseroedd er pan ddywedodd Henry Clay wrth Louis Kossuth yn 1848 mai "llawer gwell i ni, i Hwngari, ac i achos rhyddid, ydyw i ni, gan osgoi rhyfeloedd pellennig Ewrop, gadw'r lamp i losgi yn ddisglair ar y forlan Orllewinol hon." Ni ellir sicrhau