Tudalen:Roosevelt.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llonyddwch trwy ddeisyf, a dysgodd America drwy'r dirwasgiad ein bod yn aelodau i'n gilydd. Y mae hon yn wers, fodd bynnag, na ddysg neb yn llwyr, a diau y rhydd tair mil o filltiroedd o weilgi, er ei dramwyo gan radio a llongau awyr, gryn deimlad o ddiogelwch.

Y mae'n rhaid cofio, yn olaf, gyflwr amgylchiadau yn America. Nid oes ganddi drefn ar ei thŷ ei hun. Y mae ynghanol cyfnewidiadau cymdeithasol ac economaidd chwyldroadol, ac nid yw mewn tymer i ymgymryd â beichiau ychwanegol. Ymddengys yn debyg, ar hyn o bryd, y gwrthyd hithau y beichiau hyn, fel y gwnaeth Ffrainc a Lloegr, am dymor mor hir ag y medr. Oni theimla fod perygl i America, bodlona ar gynhorthwy cyffredinol i'r Cynghreiriaid. Credir y carai 87 o bob 100 o Americaniaid weled y Cynghreiriaid yn ennill y dydd, eithr 29 yn unig o bob 100 a fodlona i America ymladd pe byddai'r Cynghreiriaid yn debyg o gael y gwaethaf. Efallai y newidia'r farn gyhoeddus fel yr â'r rhyfel rhagddo, ond yn y cyfamser ni allwn ddisgwyl i America wneud mwy na chadw allan o'r rhyfel ei hun heb fod yn hollol ddiochrog.

Amgylchiadau yn unig a ddengys ai doeth y cyfryw bolisi. Un ffactor anffodus yn y sefyllfa ydyw'r ffaith y dihysbyddir diddordeb America yn ystod y naw mis nesaf gan yr etholiad Arlywyddol. Gall tynged Ewrop ddibynnu ar ddamweiniau cydymdaro'r pleidiau Americanaidd. Pe na byddai'r etholiad mor agos, y mae'n debyg yr ymroddai Roosevelt yn fwy egnïol i gynorthwyo Gwlad y Ffin. Fe bery'r dylanwad afrwydd hwn ymhob cyfeiriad hyd Dachwedd, 1940. Bydd hysbysrwydd pendant erbyn hynny ai Roosevelt ynteu gŵr arall a lywodraetha'r Unol Daleithiau.