Tudalen:Sadie.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

Meddai welediad cryf a chraff, a'r gallu i dreiddio at hanfod pethau. Nid caneuon ysgafn, arwynebol, ydyw yr eiddo Sadie; ond mynegiad dwys, angerddol, o deimladau dyfnaf y galon ddynol. Nid ydynt yn meddu y melodedd a'r perseinedd hwnw sydd yn nodweddu telynegion yn gyffredin, ond y mae ysbryd barddoniaeth fyw a gwreiddiol yn amlwg ynddynt. Yr oedd 'Sadie' yn berchen meddwl defosiynol. Y mae ambell i ddarn o'i heiddo yn debyg i fiwsig mawreddog yr organ mewn eglwys gadeiriol. Ac etto, yr oedd ynddi feiddgarwch ac annibyniaeth yr ymofynydd gonest am oleuni, ac am wirionedd. Yn y dyfynindau byrion a roddir o'i llythyrau yn y 'Coffant, ceir rhyw fantais i farnu am y dylanwadau fu yn ffurfio ei meddwl, ac yn agor drysau ei myfyrdod. Gallwn dybied mai un o'r rhai penaf ydoedd George Macdonald. Bu ei waith ef, ac yn enwedig ei 'Unspoken Sermons,' yn fanna cuddiedig i'w hensid. Ymdeimlai Sadie' a chyfriniaeth bodolaeth—the mystery of being—ac y mae y cywair lleddf yn treiddio drwy ei chynnyrchion. Nid oedd yn medru boddhau ei hunan, fel awenyddes; ac y mae yn tynu cysur o'r ffaith fod yna le i eneidiau anorphenedig— 'unfinished souls'—yn nefoedd Duw. Dyna ydoedd ei thymmherodd naturiol —rhyw anfoddogrwydd oedd yn peri iddi syllu dros orwel amser i'r dyfodol mawr a chudd Dywed ei chyhoeddwr —Mr. Strahan—ei bod yn ymddangos iddo ef fel un yn byw ar gyffiniau yr anweledig—'like a soul apart." Yr oedd yn siriol a chymdeithasgar; ond, yn nghanol ymddiddan, enciliai ei meddwl i ryw neillduseth; ac nid oedd pethau cyffredin ymddiddanion yn meddu iddi nemawr atdyniad na swyn.

III

.

Nid bob amser y gellir darllen barddoniaeth 'Sadie.' O'r braidd y gellid gwneyd hyny ar ddiwrnod heulog, clir, pan y mae pobpeth yn ddifyr o'n hamgylch. Ond, yn oriau y gwyll—y 'twi— light hours'—y mae y llyfr hwn yn gydymaith gwerthfawr a mwyn. Yr ydym yn teimlo fod yr awdures ieuangc wedi 'profi pethau nad adnabu'r byd;' ac wedi llwyddo i ddehongli aml i adnod ddyrus, anhawdd, yn nghyfrol bywyd. Dichon mai yn yr elfen hon—yr hiraeth am 'loywach nen'—y ceir y prawf amlycaf—prawf mewnol, fel y dywedir o'i haniad Cymreig. Y mae awen y Celt yn caru'r encilion, ac yn hoffi cerdd-