Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi ddych'mygais bob rhyw ddrygfyd,
Pla, rhyfeloedd, ac afiechyd;
Argoel daw, ar bob llaw, gystudd, a thrallod,
'Storom fawr, pan fyddo gorfod
Ar y seintiau fyn'd i'w beddrod.

'Nawr 'rwy'n gwel'd cymylau duon,
Yn tywyllu'r nen yn gyson,
Mellt a chenllysg yn gawodydd,
Poethwynt stormus gyda'u gilydd:
Seintiau henaf Duw'n dihengyd,
Yn dorfeydd i dir y bywyd;
Gado o'u hol fechgyn ffol, plantos bwhwmanllyd,
Ag sydd wedi chwyddo'n enbyd
Gan frathiadau'r sarff wenwynllyd.

Nid oes genyf barch i roddi,
Bellach fyth i'r WHITFIELD hyny,
Ond gwneyd cân, os galla'i, baro
I fyrddiynau gofio am dano;
Fel na annghofier fyth 'mo'i lafur,
Tra fo argraff wasg a phapur,
Ond bod son am ei bo'n dirfawr a'i ludded,
Yma a thraw i'r moroedd enbyd,
Gan y Cymry, 'r Sais, a'r Indiaid.

Er nas gwelai ef ond hyny,
Eto mi gaf swnio 'nghanu,
Ac mi gaf mewn lloches fechan
Wylo WHITFIELD wrthyf f' hunan;
Yno plediaf ar fy neulin,
Ar alluog Fab y Brenin,
Yn ei le, 'nawr o'r ne', arall i anfon,
O'r un ysbryd cywir, union,
Tra fo fe yn gwisgo'i goron.

Pan bwy'n meddwl am ei wrando,
'Rwy'n dych'mygu mod i yno,
Yn gwel'd ei wedd serchocaf dirion,
Uwch ben miloedd maith o ddynion;
Geiriau'r nef yn llifo i waered
Llosgi gefyn hen gaethiwed,