Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I MADAM BEVAN.


Tithau, bendefiges hawddgar,
Sydd a'th enw gwych ar led,
Na ch'wilyddia ddwyn yr achos
'Nawr yn mlaen, yn gadarn cred;
Gyr ysgolion rhad yn union,
O Lacharn hyd Gaergybi draw,
Nid oes neb o feibion Aaron
Na rydd iti help eu llaw.

Buost fammaeth i bererin,
'Rwyt ti'n sicr iawn o gael
Am bob defnyn o ddwfr gloyw
Roddaist iddo, gyflawn dâl;
Ti chwanegaist at dy goron
Berlau gwell, y dydd a ddaw,.
Nag a gloddir gan yr Indiaid
Fyth yn ngwlad Golconda draw.

Y PARCH. GEORGE WHITFIELD,
O GAERLOYW,

Yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1770, bron yn 66ain mlwydd oed,
pedair-ar-ddeg ar hugain o ba rai a dreuliodd yn y weinidogaeth.'

DAETH Y ce'nfor mawr terfysglyd
Im' a newydd trist anhyfryd,
Llong yn dwyn rhyw air annedwydd
O eithafoedd Lloegr Newydd,
Fod yn Newbury heddyw'n gorwedd,
Wedi gorphen taith o'r diwedd,

Ufudd was, ffyddlona ma's, grasol i'r Iesu,
WHITFIELD fwyn, larieiddiaf hyny,

Trwy holl Frydain fu'n pregethu!
Newydd yw a barodd i mi
Newid lliw ac ymderfysgu,
Byddin fawr o bob rhyw ofnau
A ruthrasant ar fy nwydau;