Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwilio'r oesoedd hen aeth heibio,
Chwilio'r oesoedd eto i dd'od,
Cânu, synu, a rhyfeddu
Iddo ddyfod yno erioed.

Yn nghwmpeini hen Rees Pritchard,
Goeliaf, rhowd e' i eiste' lawr,
Gyda Ralph, ac Ebenezer,
Harvey, Watts, a thyrfa fawr;
Fe gas ddewis ar ei anthem,
Dyna'r gair ddaeth gynta' i mas,
"Rwyfi'n synu fil o weithiau
Ddyfnder gwaredigol ras!"

Ffarwel, enaid cywir ffyddlawn,
Ffarwel iti ronyn bach,
Cawn dy gwrddyd uwch yr haulwen,
O'n cystuddiau gyd yn iach;
Ni gawn yn dy gwmni fwyta
Ffrwythau pren y bywyd pur,
Yfed dwfr fel grisial gloyw
O ffynonau bywyd hir.

Ni gawn ganu'n gydsain gyson,
Haeddiant Iesu'n Brenin mawr,
A'r aneirif ddyoddefiadau
Trymion gafodd ar y llawr;
Ni gawn wledda yn drag'wyddol
Ar helaethrwydd mawr ei ras,
Heb na phoen, na gwae, na gofid,
O'r tu mewn nac o'r tu ma's.

GRIFFITH JONES gynt oedd ei enw,
Enw newydd sy arno'n awr,
Mewn llyth'renau na ddeallir
Eu 'sgrifenu ar y llawr;
Cân, bydd lawen, aros yna,
Os yw Duw o entrych ne'
Yn gweled eisiau prints a dysgu,
Fe fyn rywun yn dy le.