Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwrandaw filoedd yn ei roesaw,
Yno i'r goleuni pur.

Pan y gwelwyd ef yn codi,
Hyfryd 'r aeth y swn i ma's,
Rhwng cerubiaid sydd yn tramwy
Gylch oddeutu'r wybr las;
"Un o'i garchar a ddiangodd,
Acw o flaen y fainc yn awr,
Ac yn derbyn gwisg a choron
Addas, gan y Brenin mawr."

"Roeddem acw," ebe Uriel,
Angel cadarn, "yn y fan
Ni ganasom ganiad newydd,
Pan y daeth e' gynta'r lan,
Pan y cafodd wisgoedd euraidd,
Pan y cafodd delyn lân,
Ni bu mwy llawenydd, groesaw,
I un Cymro 'rioed o'r bla'n!"

Mae fy ysbryd am ehedeg
Ato 'r awrhon fynu fry,
Ac am ffeindio 'i drigfan hyfryd,
Yno heddyw yn mhlith y llu:
Pwy yw ei gyfeillion penaf,
Yn mha gwr o'r nefoedd faith,
P'un ai adrodd gorthrymderau,
Ynte cânu, yw ei waith?

Wel, mynega di, fy awen,
Sydd yn chwilio pethau 'ma's,
Ac na ddianc rhag dy amcan,
Ddim o dan yr wybr las;
Tan bwy gainc o bren y bywyd
Mae ef yno'n eistedd lawr,"
Pwy droiadau o ragluniaeth,
Wrth ei ffryns mae'n ddweyd yn awr?

Taw, fy ngwenydd gwag rhedegog,
Pa freuddwydion sy'n dy fryd?
Dyna 'i waith, ond caru'r Iesu,
Myfyrio iachawdwriaeth ddrud,