Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byth y cofir am dy enw,
Tra llythyren fo mewn bod,
Bydd dy ysgolion, bydd dy lyfrau,
Byth yn dwyn i'th enw glod;
Nid rhaid careg ar dy feddrod,
Nid mewn marbl bydd dy lun,
Ond mewn 'sgrifeniadau santaidd,
Ac ar enaid llawer dyn.

Fe'sgrifenaist o blaid gweddi
Fe 'sgrifenaist o blaid dysg,
Fe ddystewaist, drwy'th ddoethineb,
Fleiddiaid rheibus yn ein mysg;
Tra yn gorwedd yn y beddrod,
Fe addfeda'r meusydd ŷd,
Ac fe gesglir dy gynhauaf,
Erbyn delo'th lwch yn nghyd.

Os daw un o gant a ddysgwyd
Genyt ti o bryd i bryd,
Braf fath luaws fydd dy lafur
Pan y do'nt yn gryno yn nghyd;
Uwch eu cyfrif yw'th weithredoedd,
O na argreffid hwynt yn rhes,
Er esiampl i rai eraill,
Ar ryw golofn fawr o bres.

Tyr'd, fy enaid, deffro, f'awen,
I fynu mewn goleuni pur,
Son am gyflwr hardd yr enaid,
Wedi gado'r anial dir;
Gad bob ysbryd trist alaethus,
Blin gystuddiau, a gwres y dydd,
Cân i'r rhai yn mhlith seraphiaid,
Sydd yn gorphwys heddyw'nrhydd.

Mae'r angelion sydd yn gwylio
Tros ynysoedd Prydain Fawr,
Wedi 'i weled ef yn pasio,
'N ddysglaer heibio'r dwyrain fawr;
F'enaid, dylyn ol ei edyn,
I derfynau'r santaidd dir,