Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I bob moddion a f'ai'n ffyddlawn
I ledaenu'r 'fengyl bur;
Eto fe wnaed ffordd i ddysgu,
Lle'r oedd dig a llid yn llawn,
Eirth cynddeiriog, call lwynogod,
Ddaeth fel wyn yn wirion iawn.

Dyma'r gwr a dorodd allan,
Ronyn bach cyn tori'r wawr,
Had fe hauodd, fe eginodd,
Fe ddaeth yn gynhauaf mawr;
Daeth o'i ol fedelwyr lawer,
Braf mor ffrwythlawn y mae'r ŷd!
'Nawr mae'r wyntell gref a'r gogr
Yn ei nithio'r hyd y byd.

Gorfoledda, ddedwydd Gymru,
Braf yw'r breintiau ddaeth i'th ran,
Trugareddau erioed na feddwyd
Yn Borneo na Japan;
Meddu Biblau, dysg i'w darllain,
A phregethu'r iachol ras;
Yn Llanddowror gyntaf torodd
Y goleuni hwn i ma's.

Hen bererin, dywed bellach,
(Mawr yr awrhon yw dy ddysg)
Fath ysbrydoedd heirdd yw rhei'ny
Wyt yn trigo yn eu mysg;
Pa fath olwg wael ddisylwedd,
Genyt sydd oddiyna 'nawr,
Ar y myrdd droiadau gweigion
Wyt yn ganfod ar y llawr?

Nis gall natur, gwnaed a fyno,
Wneuthur un o'th fath is nen,
'Gras yn unig, nid dim arall,
Ddaw a'n colled ni i ben;
 Mae dy le di'n wag hyd heddyw,
Yn nghadeiriau'r eglwys fawr,
Y mae'n gweddi, pe b'ai'n bosib',
Eto am dy gael di 'lawr.