Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ca'dd myrddiynau deimlo geiriau
Hedd, o'i enau'n llawer man,
Clywodd hithau rym ei ddoniau,
Freiniol ardderchocaf ANNE.

Dacw'r Biblau teg a hyfryd,
Ddeg ar hugain filoedd llawn,
Wedi 'u trefnu i ddo'd allan,
Trwy ei ddwylaw 'n rhyfedd iawn;
Dau argraffiad, glân ddiwygiad,
Llawn ac uchel bris i'r gwan;
Mewn cabanau fe geir Biblau
'Nawr gan dlodion yn mhob man.

Hi ragluniaeth ddyrys, helaeth,
Wna bob peth yn gydsain lawn:
D'wed nad gwiw argraffu Biblau
Heb eu darllen hwy yn iawn;
Daeth yn union ag ysgolion,
O'Werddon fôr i Hafren draw:
Rhwng y defaid mae'r bugeiliaid,
'Nawr â'r 'sgrythyr yn eu llaw.

Tair o filoedd o ysgolion
Gawd yn Nghymru faith a mwy,
Chwech ugain mil o ysgoleigion
Fu a rhagor ynddynt hwy;
Y goleuni ga'dd ei enyn
O Rheidol wyllt i Hafren hir,
Tros Bimlimon faith yn union
T'wynodd ar y gogledd dir.

Os yw Cymru'n gylch o bobtu
Yn chwe chan milltir faith o dir,
Ac o'i mewn rhyw fil o blwyfau,
Lle bu t'wyllwch dudew'n hir;
Braidd ca'dd plwyf nac ardal ddianc
Heb gael iddo gynyg rhad,
O fanteision ddysgai'n union
Iddynt ddarllen iaith eu gwlad.

Cryf a chadarn fu'r elyniaeth
Ydoedd yn y gogledd dir,