Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y CYMRY.


ANWYL GYFEILLION,

Meddyliwn, hyd yn ddiweddar, fyned yn mlaen gyda chyhoeddi gweithiau awdurol për-ganiedydd Pantycelyn nes gorphen y cwbl; ond gan fod cymaint o alw am argraffiad newydd o'r Marwnadau a gyfansoddodd, meddyliais mai gwell funsai ymgymeryd â hyny yn gyntaf, cyn myned yn mhellach.

Gan deimlo yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais bellach er ys blynyddoedd, hyderaf y bydd y derbynind o'r Marwnadau yn eu diwyg presenol yn llawn gyfleted â'r troion o'r blaen, ac yn gyfatebol i'r hyn a ddysgwylir, yn ol yr ymholi mawr sydd yn eu cylch. Gwyr pawb sydd yn gyfarwydd à gweithiau yr Awdwr Parchedig, fod llawn cymaint o'i ystwythder—ei ehediadau barddonol, ac o'i ardderchawgrwydd meddyliol ef ei hun yn y rhanau hyn o honynt â dim a gyfansoddodd. Mae yma megys yn ei elfen, mewn cyflawn fwynhad o drwydded y beirdd, yn ymbleseru yn enngderau awyr- gylch yr awen, ac yn chwareu ei danau melusion am ogoniant nefol fyd, nes y byddo yn rhaid fod calon y darllenydd wedi ei chadwyno a'i chlymu wrth y ddaear mewn dideimladrwydd marwhaol, cyn y gallo lai na theimlo ei hun dan ddylanwadau "yr hen WILLIAMS"