Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ymgomio ag ysbrydoedd y rhai a ymadawsant oddiyma yn yr Arglwydd, yn barod i ddweyd—

"Mae fy ysbryd yn cartrefu gyda'r dorf aneirif fawr,
Orai cyntaf—anedigion ag sydd yn y nef yn awr."

Ceir yma bortreiad o'r Bardd yn ei gyflawn faintioli, ac o'r gwroniaid cywir hyny ag y cana am danynt, y rhai a fuant yn offerynol i ysgwyd a dihuno Cymru drwyddi oll, a rhanau helaeth o Loegr, Scotland, Iwerddon, ac America, yn nghyda gwledydd eraill; fel y bydd yn hawdd i'r oesoedd a ddelo ar ol i ddeall pa fath rai oeddynt, ac y teimlont fel y ddau ddysgybl hyny gynt oedd yn myned tuag Emmaus, a'u calonau yn llosgi o gariad atynt, ac awydd bod yn debyg iddynt.

Mae'r oll o'r Marwnadau uchod, oddeutu pymtheg ar ugain o nifer, pa rai a fwriadwyf, "os yr Arglwydd a'i myn," eu dwyn allan yn rhanau cyffelyb i hon nes eu gorphen. Gwn na siomir neb o'r derbynwyr, os byddant yn berchen chwaeth a theimlad. Gan ddymuno bendithion fyrdd ar y darlleniad o honynt, a gobeithio na bydd y Cyhoeddwr ddim ar ei golled, y gorphwysa,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

DAVID MORRIS.

Capel Hendre, Mehefin, 1854.