Fe ddaw minteioedd o fugeiliaid,
Rhai o'r dwyrain, rhai o'r de',
Ac ni chaiff fod eisiau porfa
Fythoedd ar ei ddefaid E'.
Mi rof heibio'n awr alaru,
Gwelaf lwydd efengyl bur,
Cod o ludw Huss ryw Luther,
Concra Rufain cyn bo hir;
Fe gaiff DAVIES sy'n ei wisgoedd
Euraidd heddyw yn y nef,
Weled broydd penaf Penfro
Yn ymestyn ato ef.
Y PARCH. WILLIAM DAVIES,
CASTELLNEDD,
Yr hwn a fu farw Awst 17, 1787, yn 60ain mlwydd oed, wedi bod
yn pregethu yr efengyl am 30 mlynedd.
P'AM y mae'r medelwyr bywiog
Yn ffarwelo a'r meusydd ŷd,
Fel pe byddai bro a bryniau
Wedi eu casglu'n gryno nghyd?
P'am y dianc y rhai gwrol,
P'am y rho'nt eu harfau i lawr,
Fel pe byddai wedi darfod
Ddyddiau'r rhyfel yma'n awr?
Pan mae 'redig, hau, a chwynu,
Medu, cludo'r 'sgubau'n dwr,
Heddyw'n llanw bro a blaenau
Brydain, a thu draw i'r dwr;
Pan mae rhyfel yn cynyddu,
Pan mae saethau blin heb ball
O un cwr i'r gwersyll tanbaid
Yn ehedeg draw i'r llall.