Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan llefarodd angau felly,
Mi ddihunais o fy hun,
Ac mi welais mai nid addas
Pwyso dim ar fywyd dyn;
Myn y nefoedd fawr ei hamcan,
Fe ddwg Duw ei waith i ben,
Pe bai'r diluw 'n soddi'r ddaear,
Pe bai tân yn llosgi'r nen.

'Rwyf yn teimlo mai oferedd
Yw'r meddyliau sy'n y byd;
Adeiladu, harddu teiau,
Casglu cyfoeth mawr yn nghyd;
Caru gwraig a glynu wrthi,
Ymddifyru yn nhegwch gwedd,
Hono'n dianc mewn mynudyn,
Arna'i i lawr i waelod bedd.

Ond er hyny y mae hiraeth
Yn yr eglwys fawr yn nglŷn,
Ond yn benaf fel mae'n addas,
Yn 'mysgaroedd PRICE ei hun;
Colli gwraig wnaeth ef, a chymar,
Ffyddlon iddo pob peth trwy:
Ninnau goll'som fam yn Israel,
Mamaeth, heb ei bath hi mwy.

Ac am hyn rho'f ffordd i'm doniau,
Cariad sy'n fy ngyru 'mla'n,
Fel bwy'n canu mwy 'rwy'n wylo,
Fel bwy'n wylo mwy yw'r tân;
Trech yw'r cariad nag y diffodd,
Nid oes fflam i gael mor gref,
A chredadyn ar y ddaear
At ei gyfaill yn y nef.

Canu 'rwyf i'r wraig lareiddiaf,
Garedicaf un erio'd,
Ag a welodd bro Morganwg,
Er ca'dd bro Morganwg fod;
Y mae hiraeth trwy fy nghalon,
Prin 'rwy'n credu mai gwir yw,