Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Saith o Farwnadau.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan ei phriod, gan ei theulu,
Gan yr eglwys, gan y byd?
Fod e'n greulon didrugaredd,
Fyn'd i'r baradwysaidd ardd,
Eglwys Iesu, tori oddiyno,
Un o'r blodau mwya' hardd.

Lle 'roedd mil, a mil drachefn,
O rai diffrwyth yn y byd,
Deillion, cloffion, gwywedigion,
Oedd yn chwyddo'r trethi o hyd;
Meddwon, lleiddiaid, afreolus,
Neu orthrymwyr, melldith ryw:
Gado rhei'ny wnaethost, angau,
Lladd y fenyw oreu'n fyw.

Fe'm hatebodd, minau'n crynu,
Arfaeth barodd hyn yn awr,
Nid wy'n sangu 'stafell wely
Ond wrth arch y nefoedd fawr;
Weithiau perir i mi dynu
Maes ar frys fy nghleddyf llym,
Taro'r plentyn heb drugaredd,
Hed ei ysbryd fry yn chwim.

Ond caiff cant a deg o flwyddau
Fyn'd tros goryn ambell un,
Er yn groes i bob dysgwyliad,
Cyn rhoi nghleddyf ynddo 'nglyn:
Ac fe berir im' rai prydiau,
Er y galar, er y cri,
Daro'r llencyn un ar hugain,
Ag fo'n dyfod idd ei fri.

Ar ol trefn nef gosodwyd,
Nid yn fyrach, nid yn hwy,
I ddyn fyw, ac i ddyn farw,
I gael iechyd, a chael clwy';
Nis gall physigwriaeth ddynol,
Nis gall meddyg îs y nen,
Estyn awr ar fywyd brenin,
Pan ddel arfaeth nef i ben.