Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'r hanes am amryw o frenhinoedd Lloegr yn lled ddigrifol; ambell un yn newid ei wragedd bedair gwaith neu bump mewn ychydig amser; un arall yn newid ei grefydd, os bu gan frenhinoedd erioed grefydd a dalai ei galw felly; ac os ydyw'r gair crefydd yn meddwl daioni i ddynolryw yn gyffredin. Ffordd un frenhines oedd llosgi pobl o eisiau iddynt gredu ac addoli yn erbyn eu hewyllys; a'r esgobion a'r offeiriadau pabaidd yn suo yng nghlustiau'r frenhines i dywallt gwaed y rhai a ddywedai air yn eu herbyn hwy, rhag iddynt gael eu troi o'u swydd, a cholli eu tâl. Nid o achos pynciau daionus duwiol y bu y fath ladd a llosgi o achos crefyddau, ond yr elw a oeddid yn ei gael am boen oedd yr achos; ac ydyw'r achos y dydd heddiw o fod cymaint o ymryson rhwng y bobl sydd yn eu galw eu hunain yn grefyddwyr. Pan fu'r cythrwfwl yn amser Oliver Cromwell yr oedd rhyw rith crefydd yn fantell tros lygaid y bobl, rhag iddynt weled mai am eu. harian hwy yr oedd Oliver a'r brenin yn ymladd; felly nid oedd y bobl ond ychydig well er i Oliver ennill cymaint ag a gawsant oedd newid eu meistr; yr un fath a dyn yn symud o'r naill garchar i'r llall, heb ddim sôn am ei ollwng ef yn rhydd.

Cyn myned ymhellach, daliaf ychydig sylw ar y peth yr ydys yn alw'n goron. Mae'r dyn a ddigwyddo gael ei eni yn aer i goron Lloegr, neu ryw goron arall ag sydd yn rhedeg o dad i fab. neu o aer i aer, i gael rhyw elw mawr, gan bobl y wlad lle genir ef at ei gadw; ac heblaw hynny. ryw allu mawr yn ei law ei hun, mewn amryw achosion. Mae gan frenin Lloegr allu ac awdurdod i roi llawer o lefydd i'w ddeiliaid, a'r llefydd hynny yn werth o fil i ugain mil o bunnau