Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei wneud, mae dyn yn dyfod yn frenin. Felly mae'r esgobion yn gwneuthur brenin, a'r brenin yn gwneuthur esgobion, i gael lle i lechu mewn awdurdod, naill yng nghysgod y llall; a'r bobl. yn synnu wrth edrych a thalu am eu gweithredoedd hwy.

Mae newid enwau pobl wrth eu gwneuthur yn frenhinoedd, neu'n esgobion, yr un fath ag y bydd. chwaryddion enterlute yn newid eu hunain yng Nghymru. Pan welo'r dyrfa y chwaryddion yn dyfod i'r lle penodol iddynt chwarae, cewch eu clywed hwy'n dweud, "Dacw'r dynion yn dyfod;" neu dyma'r dyn sydd yn myned i chwarae;" ond pan roddo'r dyn hwnnw syrcyn. brith am dano, a rhyw gap digrifol am ei ben, ni henwir mohono'n ddyn ddim yn rhagor; mi fydd yr holl blant yn dechrau galw ar eu gilydd, ac yn dweud, "Dowch, dowch, i wrando, dacw'r ffwl ar y daflod."

Er nad oes fodd i roi dim dysg na dawn na gwybodaeth yn y tegan a elwir yn goron, mwy nag y gellir roi ysmaldod a digrifwch mewn cap ffwl, eto mae'r dynion a fo'n eu gwisgo hwy yn cael enwau neilltuol, ac yr ydys yn disgwyl i'r dynion a fo'n eu gwisgo hwy, i un fod yn gall ac yn ddysgedig, a'r llall yn ysmala a digrifol; a phwy bynnag a ddigwyddo wisgo'r teganau uchod, mi ddisgwylir ganddynt yr un doniau. Wrth hynny gellir meddwl mai yn y cap a'r goron mae'r synnwyr a'r digrifwch. Hwyrach mai felly mae; ond ar y llaw arall, os oes neb yn meddwl fod y dynion uchod yn'berchen cymaint synnwyr a digrifwch, un heb y goron a'r llall heb ei gap, i ba beth mae'r cap a'r goron da? I synnu pobl gyffredin, ac i'w hudo hwy i ymadael a'u harian?