Ond mae lle gwell i ddisgwyl digrifwch gan y gŵr a'r cap nag sydd i ddisgwyl synnwyr gan ŵr y goron, oherwydd wrth ei anian ei hun mae dyn yn myned yn chwaraeydd anterlute; un i ddeg i'w dad ef feddwl am y fath beth, nag i'w fab ef feddwl fyth am ganu na chwarae ar ei ôl ef; ond y mae'r goron yn disgyn o dad i fab, pa un bynnag ai synhwyrol ai peidio; ac mi wyr pawb nad ydyw synnwyr a doniau ddim yn cerdded o dad i fab. Ni wyr neb, pan fo dyn duwiol marw, ym mha gwr i'r wlad i ddisgwyl ei ail ef. Ac os digwydd iddynt farw heb orffen gwneuthur cerdd o un bennill, ni wiw disgwyl i'w plant na'u hwyrion hwy orffen hynny. Felly ynfydrwydd ydyw disgwyl i ddoniau ganlyn yn yr un genhedlaeth. Mae'r Goruchaf, i ddangos ei gyfiawnder a'i uniondeb ei hun, yn rhoi rhyw ddoniau a synnwyr neilltuol i'r dyn tlotaf o ran pethau bydol; ac nid gwiw i ŵr mawr a fyddo wedi cael ei eni yn arglwydd feddwl dweud nac ysgrifennu mor synhwyrol â'r dyn tlawd, er iddo iro ei ben, a gwisgo ei ferwisg fawr, a gownau, a llawer o deganau o'r fath, gan ddisgwyl i bobl feddwl ei fod ef yn synhwyrol, oherwydd ei wisgiad; yr un fath ag y bydd merch ieuanc a fyddo heb fawr harddwch na chynysgaeth ganddi, yn gwisgo'n rhyfeddol o'r gwych, i edrych a fedr hi dwyllo rhyw ddyn diniwaid wrth ei dillad.
Y peth rhyfeddaf sydd yn perthyn i'r goron ydyw'r awdurdod ag sydd yn llaw'r dyn a fo'n ei gwisgo hi. Heblaw rhannu rubanau a gwneuthur arglwyddi, a rhyw chwarae plant yn y pistyll o'r fath hynny, mae'r brenin yn ben barnwr Lloegr; ac efe ydyw'r ffynnon lle meddylir fod yr holl