Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan fyddo'r brenin marw, rhaid coroni ei fab ef, neu'r perthynas nesaf iddo'n union, pa un bynnag ai hen ŵr drwg ei gof, a hurt gan henaint, ai baban yn ei grud, ni waeth pa'r un. Mae'n iawn iddo, meddant hwy, gael yr holl allu uchod yn ei law, cyn gwybod rhagor rhwng ci a buwch.

William a Mary

Yn y flwyddyn 1688, y daeth dyn a dynes i Loegr o Holland, a elwid William a Mary, ac mi a'u gwnaed hwy'n frenin a brenhines ar Loegr; er fod lle i feddwl na wyddai'r un o'r ddau ddim mwy am gyfreithiau a rheolau'r deyrnas mwy nag y gŵyr twrch daear am yr haul. A rhai felly ydyw'r rhai gorau gan y rhai a fo mewn swyddau uchel tan y brenin, i gael iddynt hwy drin y deyrnas fel ag y mynnont, a rhoi'r brenin yn farch cynfas dros eu gweithredoedd. Yn yr amser hynny y trefnwyd rheolau cyfreithiau llywodraeth Lloegr fel ag y maent y dydd heddiw; ond eu bod hwy wedi rhydu a'u plygu, a'u gwyrgamu lawer gwaith er hynny hyd y pryd hyn.

Darfu i'r rhan fwyaf o esgobion ac Arglwyddi Lloegr, a llawer o rai eraill a oedd yn disgwyl cael rhywbeth am eu poenau, fyned, yn enw pobl Lloegr a Chymru, o flaen William a Mary, a thyngu ufudd-dod iddynt hwy a'u hiliogaeth tros byth; ac fod pobl Lloegr (y rhai oedd yn fyw yr amser hynny, yn cydnabod, ac yn addef, ac yn ufuddhau i William a Mary, y nhw a'u cenedl, hyd ddiwedd y byd. Hynny yw, y cai pob oes. a phob gradd o ddynion ufuddhau a pharchu ac anrhydeddu a mawrhau, a chydnabod plentyn, neu etifedd, neu'r nesaf o waed i William a Mary yn yr awdurdod a'r breintiau ag yr oeddynt hwy yn tyngu ufudd-dod iddynt y diwrnod hwnnw.

Pan fyfyriom-ni ychydig ar ynfydrwydd y llw uchod, ac yn enwedig y bobl a'i gwnaeth ef, nid