Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes dim achos i ni ryfeddu at eu gwaith yn gyrru i Holland neu Hanover am ddyn i fod yn frenin. Gallai dyn feddwl wrth eu gweithred nad oedd gan yr un ohonynt hwy mo'r digon o synnwyr i fod yn gaisbwl.

Mae'n debygol eu bod yn meddwl y gwnai'r Hollalluog roddi mwy o synnwyr i genhedlaeth William a Mary nac i'r un genhedlaeth arall yn Lloegr; felly yn ceisio gwneud Duw yn anghyfion i ddwyn i ben eu hynfydrwydd eu hunain; ond nid felly y mae, daliwch chwi sylw ar oesoedd aeth heibio, ac yr oes yma yn enwedig. Mae brenhinoedd mor chwannog i fyned yn sâl neu o'u synhwyrau ag ydyw pobl eraill. Mi fu brenin Lloegr yn sâl iawn yn ddiweddar; ac mi fu brenhines Portugal o'i chof, neu o'i synhwyrau, yn ddiweddar, ac y mae hi eto heb ddyfod i'w hiawn bwyll, felly hawdd yw deall fod dynolryw yn gydradd ger bron awdur y byd.

Yr Arglwyddi

Y rhai nesaf at y brenin yn y llywodraeth yw'r arglwyddi ac y mae eu henwau a'u hawdurdod hwythau yn disgyn o aer i aer; ac mi allant wneuthur fel ag y mynnont, ac nid oes gan fonheddig na gwreng ddim awdurdod i'w galw i gyfrif am eu gweithredoedd, mewn perthynas i lywodraeth y deyrnas. Ar ôl iddynt uno yn y senedd cyffredin ar ryw achos pwysfawr rhaid gyrru'r weithred i dy'r arglwyddi, ac iddynt hwythau fod yn foddlon iddi cyn ei gyrru i'r brenin, i ofyn ei farn ef.

I ddwyn ar ddeall i'r darllenydd nad ydyw tŷ'r arglwyddi yn gwneuthur fawr o ddaioni yn y llywodraeth, gadewch inni dybied i Mr. Grey gynnig yn y senedd gyffredin, am roi treth o bum cant yn y flwyddyn ar bob arglwydd yn Lloegr,