Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywed neb air yn erbyn ein gweithred ni, mi gaiff fyned ar ôl Muir a Palmer i Botany Bay. Yn lle rhoi treth arnom ni, gan fod eisiau arian i gynnal y rhyfel ymlaen, rhaid iddynt feddwl am roi treth ar halen neu rywbeth o'r cyffelyb ag sydd werthfawr i'r radd isaf o ddynion. Mae'n iawn iddynt dalu hynny a welom ni'n dda, er mwyn cael llonydd i weithio, i'n cadw ni yn golofnau tan gyfiawn lywodraeth y deyrnas."

Cymaint a hynyna am ddull tŷ'r arglwyddi, ac am ddull pob arglwydd ag sydd yn byw ar eiddo'r cyffredin, o arglwydd y drysorfa i arglwydd gau- dŷ'r brenin.

Mae rhyw ychydig nifer o arglwyddi yn byw ar eu heiddo eu hunain, ac yn ddynion call hynod, ac yn siarad yn enwog, ac yn gadarn yn erbyn rhyfel, ac yn ewyllsio cael heddwch a daioni i'r wlad trwy ostwng y trethi, ac esmwythau ar y rhan werthfawr o ddynolryw ag sydd yn ennill eu bara trwy chwys eu gruddiau; ond ni waeth i'r gwŷr da hynny dewi, mae cymaint haid o'r lleill ag sydd mewn ofer swyddau a llefydd afreidiol yn ymwneud i daro pob rheswm yn ei ben, a'r esgobion pan fo'r Beibl yn gaead yn gweled hynny yn ei le. Yr arglwyddi ydyw'r achos mwyaf o fod treth y tir mor anwastad ac mor isel, wrth ydyw trethi eraill, oherwydd eu bod hwy'n berchen cymaint o diroedd eu hunain. Felly mae ein grasusol arglwyddi yn gwneud i'r bobl gyffredin dalu'r rhan fwyaf o'r trethi.

Y Senedd Gyffredin

Bellach dywedaf air neu ddau mewn perthynas i'r Senedd Gyffredin. Mi feddyliai dyn wrth edrych ar y tŷ yma oddi allan ei fod e'n dy yn cynnwys aelodau yn byw ar eu heiddo eu hunain; a chwedi eu dewis gan ryw nifer o'u cymdogion