a'u gyrru i'r tŷ cyffredin i wneuthur daioni iddynt eu hunain a'u cydwladwyr; ac mi allai dyn feddwl fel y gwnai dynion felly ryw ddaioni yn daledigaeth i'r bobl am eu dewis hwy, a'u cludo nhw mewn cadair ym mhen tre'r sir, lle bôn' hw yn cael eu dewis, a chael anrhydedd mawr oherwydd eu bod yn cael eu hethol; ac yn enwedig fod y rheini sydd yn eu hethol hwy yn ymddiried iddynt am wneuthur eu gorau ar les y wlad yn gyffredin.
Ond O resyndod a gwaradwydd a chywilydd a cholled. Dyna y tŷ mwyaf llygredig a halogedig a adeiladwyd mewn gwlad erioed, ar feddwl gwneuthur lles i'r deyrnas. Ni chlywais, ac ni welais i mewn hanesion erioed sôn am dŷ yn cael gwneuthur cymaint camarfer ohono, namyn y tŷ lle yr oedd y bobl yn gwerthu colomennod yn Jerusalem. Y gwŷr cyntaf a mwyaf eu parch yn y tŷ yma yw gweinidogion y brenin, neu brif lywodraethwyr tan y brenin; a Will Pitt ydyw y gŵr cyntaf ohonynt; a phob pwnc a ddelo ef ger bron y Senedd (am drethi newyddion, am godi gwŷr i ryfela, neu dalu dyled Tywysog Cymru, neu rywbeth arall o'r cyffelyb ag a fo'n ddaioni mawr i'r bobl gyffredin), rhaid iddo ennill ei bwnc, neu fod mewn perygl o golli ei le; ac oherwydd y llefydd a'r oferswyddau ag y mae y rhan fwyaf o'r aelodau yn eu cael am godi eu dwylaw efo gweision y brenin, hawdd y gallant trwy nerth llefydd ac arian gael gwneuthur y peth a welont hwy'n dda eu hunain.
Mae llawer cyndrefniad anafus yn perthyn i'r Senedd Gyffredin; yn gyntaf, nid oes gan neb ond perchen tir ddim hawl i roi llais i yrru aelod yno; oddieithr mewn rhyw ychydig fannau; felly nid