un dyn mor rhyfygus â galw pobl America-fy mhobl i.
Pan gyhoeddodd pobl America eu hunain yn rhyddion oddi wrth bob llywodraeth arall, yr oedd hynny megis seren fore rhyddid; ac er i frenin Lloegr ddanfon milwyr megis yn gwmwl i orchuddio'r seren, ymddangos a wnaeth hi; a phan ddaeth gwynt cyfiawnder i chwythu yn dymhestlyd o'r gorllewin, mi chwalodd y cymylau tua'r dwyrain; felly ar doriad y dydd ymddangosodd y seren yn ei phelydr ger bron y byd. Y bobl a gymrodd fwyaf o sylw o'r seren uchod oedd pobl Ffrainc. Yr un fath â dyn wedi bod yn y tywyllwch yn rhyfeddu, ac yn llawenu weled llewyrch oleuni; felly yr oedd pobl Ffrainc wedi cael eu cadw dros lawer o oesoedd mewn tywyllni tan orthrymder anoddefadwy, ond pan gawsant unwaith olwg ar seren rhyddid, ni ddarfuant byth orffwyso'n esmwyth nes y cawsant chwalu'r cymylau a'r caddug a oedd yn ceisio gorchuddio golau rhyddid. Er i haid waedlyd o frenhinoedd a thywysogion, a'r pab yn ben arnynt, godi byddinoedd ac arfau i geisio cadw pobl Ffrainc mewn tywyllwch a gorthrymder, eto mae'r Ffrancod, ar ôl ymladd llawer brwydr galed yn erbyn pennau coronog Ewrop wedi ennill y maes ymhob talaith, ac yn debyg o fynnu byw tan lywodraeth wledig yn bobl ryddion, heb waethaf holl frenhinoedd y byd.
Nid o ran cadw pobl Ffrainc tan orthrymder brenin, oedd yr unig achos i'r brenhinoedd godi yn eu herbyn, ond rhag ofn i'w deiliaid eu hunain gael golwg ar seren rhyddid oedd yr achos iddynt fod mor filain yn erbyn y Ffrancod; canys pan oedd brenin yn Ffrainc, mi fyddai brenin Lloegr