Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

UN o ysgrifenwyr cyfnod chwyldro Ffrainc oedd John Jones Glan y Gors; un a daflwyd i li bywyd yn Llundain; un o feibion "rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch."

Fe aethai dynoliaeth ar gyfeiliorn yn ystod yr Oesoedd a elwir Tywyll. Er mwyn dad-wneud y drwg, a dyfod yn ôl i'r llwybr iawn, fe fu rhaid wrth ddau ffrwydrad: chwalu awdurdod gormesol yr eglwys, a chwalu awdurdod gormesol gwleidyddol. Fe wnaethpwyd y naill gan y Dadeni, a'r llall gan chwyldroadau America a Ffrainc.

Yn y dinasoedd y dechreuwyd amau seiliau sefydliadau gwleidyddol ac eglwysig. Yr oedd 90 o bob cant o wladwyr Ewrob yn anllythrennog a digon di-hidio. Ond dyma'r gynffon yn dechrau ysgwyd y ci. Fe gododd ysgrifenwyr i arwain yr ychydig rai meddylgar; cyffroesant hwythau a llusgo'r llu i'w canlyn; a hwnnw ydyw'r ysbryd a arweiniodd, trwy waith a mynych adwaith, at wareiddiad gwyddonol a chymharol rydd y dydd heddiw.

Ym Mhrydain y dechreuodd yr ymholi a'r ymresymu. Aeth Voltaire (fu'u byw yn Lloegr) â'r syniadau i Ffrainc, lle y datblygwyd hwy gan Rousseau, ac aeth Franklin, Paine, a Jefferson â hwy i America. Y bobl a gymhwysai egwyddorion Voltaire a Rousseau at fywyd a'i broblemau oedd y bobl a ddarllenid yn America a Lloegr a thrwy gydol Ewrob yn ail ran y ddeunawfed ganrif, ac a ysbrydolodd ym mhob gwlad y rhyddfrydiaeth oedd yn cymeradwyo'r chwyldro.