Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble (ym meddiant yr hwn y mae Cyfieithiad John Davies o'r Testament Newydd) am bob hwylustod ynglŷn â'r adran bwysig hon; yr Athro Emrys Jones, B.A., B.D., B.Litt., a'r diweddar Brifathro J. Park Davies, M.A., B.D., Coleg Caerfyrddin, ynglŷn â'r ochr glasurol i'r gwaith; y Parch. T. Esger James, Llansteffan (ym meddiant yr hwn y mae Dydd-lyfr Siôn Gymro ') am ddyfyniadau ohono; i Staff y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, lle y cedwir y rhan fwyaf o MSS Siôn Gymro, heb anghofio'r argraffwyr clodwiw y caf y fraint o'u cyfrif ymhlith fy nghyfeillion anwylaf yn nhreflan Llandysul, a fu gynt yn faes i'm gweinidogaeth am un-mlynedd-ar- ddeg.

Ond yn bennaf oll dymunwn gydnabod y Prifathro Thomas Lewis am ei gyfraniad gwerthfawr ar John Davies fel leithydd. Gwyddwn am ei ddiddordeb mawr yn ein gwrthrych, ac nad oedd awdurdod uwch ar y pwnc nag efe, a rhoddodd i mi ei gynorthwy amhrisiadwy yng nghanol ei brysurdeb fel Cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am 1937. Wrth baratoi y lluniau a'r blociau at y Gyfrol bu raid inni adael allan Bwlch-yr-Helygen a Chastell-y-geifr am eu bod yn ormod o adfeilion i'w gosod mewn llun, ac wedi eu cuddio ymron gan hesg a drain a danadl. Rhoddi hanes gŵr mawr diwylliedig yn llaw gwerin fy ngwlad, ac am bris rhesymol oedd fy amcan wrth droi allan y gyfrol yn y ffurf hon, gan hyderu fy mod i ryw fesur wedi llwyddo. "Hyn fydd fy nghoron a'm llawenydd ".

BEN DAVIES.
Llandeilo.