Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

DECHREUODD fy niddordeb yn y Parch. John Davies yn gynnar iawn. Ni chefais y fraint o'i weled na'i glywed erioed—rhy ieuanc oeddwn i hynny. Ond yr oedd Iet-y-garn, ei drigfan olaf, o fewn golwg i'm cartref, ac un o blant Moreia oedd fy mam. Pan oeddwn yn saith. mlwydd oed, cofiaf hi yn prynu llun ei gweinidog, ac y mae'r llun hwnnw hyd heddiw ar fur yr hen gartref, wedi llwydo ac edwino'n fawr erbyn hyn gan dreiglad y blynyddoedd, ond yn fy serch a'm cof yn fythol ir a newydd. Clywais lawer o són am dano ymhen. blynyddoedd ymhlith yr ardalwyr, a dyfnhaodd fy niddordeb fwyfwy ynddo wedi myned i'r weinidogaeth. Deliais ar bopeth a glywn ac a ddarllenwn. am dano, a ffrwyth yr ymchwil a'r llafur hwnnw yw'r gyfrol hon. Rhoddwyd gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, 1936, am Draethawd ar "Fuchedd a gwaith John Davies ", a dyfarnwyd cynnwys y gyfrol hon gan mwyaf yn ail—orau. Cymeradwywyd y gwaith yn ei raniadau a'i gynnwys gan y Beirniad, y Prifathro Thomas Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, ac awgrymodd y gallasai'r Cystadleuydd wneud Cofiant i'r gwrthrych o'i ddefnyddiau. At hynny yr anelwn yn bennaf, a'r hyn a gollodd y wobr a ddiogelodd y ffurf hon i'r gwaith. Mae fy nyled yn fawr iawn i'r rhai canlynol am eu cynorthwy a'u cyfarwyddiadau ynglŷn â'r gyfrol:— I Mr. John Edwards, M.A., Yr Ysgol Sir, Llandeilo am ddarllen y proflenni a llawer awgrym gwerthfawr;