thawel oedd Neuadd y Carw yn yr hwyrnos; peidiodd tinc y delyn, llais y bardd a chwerthin milwr.
Wedi i ddeuddeng mlynedd o arswyd lithro heibio, crwydrai un o wylwyr Hrothgar un dydd ar gefn ei farch uwch glan y môr. Gwelai long fawr yn agosáu'n gyflym at y tir, a charlamodd i lawr i'r traeth. Erbyn iddo gyrraedd yno, yr oedd y llong wrth y lan, a milwyr tal, cryfion, yn neidio ohoni a'i chlymu wrth y graig.
Safodd y gwyliwr gerllaw, gan godi ei waywffon hir uwch ei ben a galw arnynt.
"Ddieithriaid, sy'n glanio mor hyf yn ein tir, pwy ydych chwi? Myfi yw gwyliwr y traeth, a mynnaf wybod o b'le y daethoch a phwy ydych a'ch neges yma."
Syllodd ag edmygedd ar y pymtheng milwr a safai ger y llong, gan graffu ar eu harfau gloyw a'u gwisgoedd o ddur llachar. Gwelodd fod un ohonynt yn dalach ac yn fwy urddasol na'r lleill, a hwnnw a'i hatebodd.
"Rhyfelwyr o'r Gogledd-dir ydym," meddai, "a daethom yma dros ewyn y môr i geisio dy frenin, Hrothgar. Clywsom am yr arswyd sydd trwy'r wlad ac am Grendel, yr anghenfil sy'n lladd a difetha yn y nos. Myfi yw Beowlff, a deuthum yma i ymladd â Grendel."
Arweiniodd y gwyliwr hwy i olwg y neuadd fawr, ac yna rhuthrodd yn ôl i warchod y traeth. Wedi rhoi