Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu tariannau a'u gwaywffyn i bwyso'n erbyn mur y neuadd, cerddodd Beowlff a'i gyfeillion i mewn yn eofn. Daeth un o filwyr y brenin atynt i holi pwy oeddynt.

"Dywed wrth y brenin y mynn Beowlff o lwyth y Geatiaid ger Môr y Gogledd siarad ag ef."

Dug y milwr y neges i Hrothgar.

"Beowlff!" meddai'r hen frenin. "Cofiaf imi ei weld pan oedd yn fachgen, a chlywais ar ôl hynny lawer stori ryfedd am ei wrhydri. Clywais ei fod yn gryfach na deg ar hugain o filwyr cyffredin. Rhown groeso iddo ac i'w gyfeillion. Pwy a ŵyr, efallai mai ef a'n gwared oddi wrth Grendel?"

Ymhen ennyd safai Beowlff o flaen Hrothgar.

"Henffych iti, O Frenin," meddai. "Myfi yw Beowlff, a deuthum yma i'th gynorthwyo. Dywaid morwyr a thelynorion yn ein gwlad ni fod rhyw greadur erchyll yn lladd a dychryn dy bobl. Dywedant hefyd fod y neuadd brydferth hon yn wag a distaw wedi i'r haul fachlud. Gwyddai fy nghyfeillion am fy nerth i mewn rhyfel, a chymhellwyd fi i groesi'r môr a herio Grendel."

"Flynyddoedd yn ôl," meddai Hrothgar, “yr oeddwn i a'th dad yn gyfeillion mawr. Un tro dihangodd yma rhag ei elynion, a rhoddais lety ac amddiffyn iddo. Erbyn hyn y mae dy dad wedi marw, ac yr wyf innau'n hen a chrynedig. Y mae'r hanes am Grendel a'r gwae a bair yn rhy hir i'w adrodd wrthyt