Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn awr, ond teg yw dywedyd wrthyt i lawer gwron aros yn y neuadd hon gyda'r nos a'u cleddyfau tanbaid yn eu llaw. Bore trannoeth, nid oedd sôn amdanynt, dim ond ôl eu gwaed hyd y byrddau a'r llawr ac ôl traed yr anghenfil yn arwain tua'r gors. Amled y digwyddodd hynny! Ond yn awr eistedd wrth y bwrdd, ac wedi i ti a'th gyfeillion fwyta, cawn glywed am dy gynlluniau."

Eisteddasant i fwyta ac yfed medd, a chanodd telynorion gerddi am hen wroniaid y genedl. Wrth edrych ar gorff cryf Beowlff, dechreuodd yr hen frenin Hrothgar obeithio bod diwedd Grendel ar ddod. Daeth y frenhines hefyd i mewn i'r neuadd, ac estynnodd gwpan arian yn llawn o win i Feowlff. Yr oedd diolch yn ei chalon fod arwr fel hwn yn barod i anturio 'i fywyd drosti hi a'i gwlad.

Yn sŵn cân a chwerthin y treuliwyd oriau'r wledd, ond cyn hir tawelodd y miri, oherwydd gwyddai pob milwr fod y nos yn agosáu. Cododd Hrothgar a'i holl wŷr, ac aethant allan gan adael Beowlff a'i gymdeithion yn unig yn y neuadd.

"Cofia arfer dy holl nerth," meddai Hrothgar wrth ymadael. "Os gorchfygi'r creadur hwn, bydd sôn amdanat ym mhob gwlad."

Gorweddodd cyfeillion Beowlff i lawr i gysgu; yr oeddynt oll yn flinedig wedi'r rhwyfo caled dros y môr. Tynnodd Beowlff ei wisg haearn oddi amdano, a rhoes ei gleddyf o'r neilltu.