Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edrychai Hrothgar unwaith eto â balchter ar aur cerfiedig y muriau a'r to.

"Beowlff, arwr pob arwr," meddai, "o hyn allan byddi fel mab imi, a chei gennyf bopeth a ddymuni."

Yna rhoes iddo helm a gwisg-ryfel wedi eu haddurno ag aur, baner o aur pur a chleddyf yn disgleirio â gemau lawer. Arweiniwyd at ddrws y neuadd hefyd wyth o geffylau cyflymaf y wlad, ac yr oedd aur ar eu ffrwynau a chyfryw un ohonynt yn frith gan berlau. Rhoes y frenhines hithau anrhegion gwerthfawr iddo, ond gwell na'r cwbl i gyd i Feowlff oedd gweld y milwyr yn bwyta ac yfed yn llon yn y neuadd a fu gynt yn wag ac unig gyda'r nos.