fuan llusgai'r ddau ei gilydd ar draws ac ar hyd y neuadd gan droi byrddau a meinciau ym mhobman. Rhuthrodd cyfeillion Beowlff, bob un â'i gleddyf yn ei law, atynt, gan geisio niweidio'r bwystfil, ond anodd oedd gweld dim ond llygaid gwyrddion Grendel yn y tywyllwch. Gwyddent hefyd nad oedd cleddyf yn dda i ddim ar groen caled y creadur hwn.
Yr oedd sŵn yr ornest fel taranau yn y neuadd, ac am filltiroedd o amgylch gwrandawai pobl mewn dychryn ar y cynnwrf. Penderfynodd Grenfel ddianc yn ôl i'w ffau, ac ymlusgodd ar draws y neuadd tua'r drws. Gwingai a rhuai wrth geisio ei ryddhau ei hun o afael Beowlff, a theimlai fel pe bai ei fraich anferth yn cael ei thynnu o'i gwraidd. A sgrech annaearol, rhoes naid. at y drws a ffoi allan i'r nos a'r niwl. Ymlusgodd i'w ffau yn y gors afiach i farw, gan adael ei fraich a'i ysgwydd yn nwylo Beowlff.
Bu llawenydd mawr yn y neuadd. Crogwyd y fraich anferth dan y to, a chasglodd llawer o filwyr yno i syllu'n synn arni. Gyda'r wawr, brysiodd cannoedd o bobl yno i'w gweld, a charlamodd rhyfelwyr ar eu meirch gwynion dros y morfa gan ddilyn ôl gwaed yr anghenfil. Daethant at hen lyn tywyll o dan goed, a'i wyneb crychiog yn goch gan waed. Yn nyfnder y pwll hwnnw y gorweddai'r creadur a wnaethai gymaint o ddifrod yn y tir.
Yn y wledd yn Neuadd y Carw canai llawer telynor glodydd Beowlff, ac yfai pawb y medd yn llawen.