Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX—ARTHUR

A FUOCH chwi'n gwneud caseg-eira ryw dro? Y gaeaf diwethaf, gwelais fachgen wedi gwneud un lawer mwy nag ef ei hun. Wrth iddo'i gwthio drwy'r eira, cynhyddai o hyd nes mynd ohoni yn y diwedd yn rhy fawr iddo'i symud o gwbl. Go debyg i'r gaseg-eira honno fu hanes y brenin Arthur. Cychwynnodd y chwedl tua'r chweched ganrif ac aeth yn fwy ac yn fwy o hyd. Erbyn yr Oesoedd Canol yr oedd yn fwy nag un chwedl arall, a thyfasai Arthur, pennaeth y Brythoniaid, yn Ymherodr chwedloniaeth Ewrop.

Flynyddoedd maith yn ôl, medd y chwedl, yr oedd brenin ar yr ynys hon o'r enw Uthr Pendragon, milwr dewr ac arweinydd doeth. Syrthiodd mewn cariad â thywysoges Cernyw, a thrwy gymorth y swynwr, Myrddin, enillodd hi'n wraig. Gŵr rhyfedd oedd y Myrddin hwn; gallai newid ei ffurf fel y mynnai, hyd yn oed ei wneud ei hun yn anweledig, a dim ond iddo ddymuno bod yn rhywle, yno y byddai mewn eiliad. Deallai hwn feddyliau pawb, a darllenai'r dyfodol fel llyfr. Bu raid i'r brenin addo i Fyrddin y rhoddai ei fab, pan enid ef, i'w ofal ef i'w ddwyn i fyny.

Dri diwrnod wedi geni'r mab, Arthur, rhoes y brenin orchymyn i'w weision i ddwyn y plentyn i borth y ddinas a'i roi i hen ŵr carpiog a fyddai'n aros yno.