Yr hen ŵr, wrth gwrs, oedd Myrddin, a dug y plentyn ymaith i blas pennaeth dewr a charedig o'r enw Syr Ector. Yno y magwyd Arthur, a rhoddai Syr Ector iddo yr un sylw a'r un manteision ag a roddai i'w fab ei hun, Cai. Tyfodd Cai ac Arthur yn hapus yn yr un cartref, ac edrychent ar ei gilydd fel brodyr.
Ddwy flynedd wedyn, galwodd Uthr ei benaethiaid ato. Gorweddai ar ei wely, ac yr oedd ei lais yn wan a chrynedig.
"Yr wyf yn marw," meddai wrthynt, "ac yr wyf am i chwi oll fynd ar eich llw i ofalu am y deyrnas nes bod fy mab, Arthur, yn ddigon mawr i deyrnasau yn fy lle."
Tyngodd y penaethiaid y byddent deyrngar i fab y brenin, ond wedi marw Uthr, dechreuasant ffraeo ac ymladd â'i gilydd, ac yr oedd llygaid pob un ohonynt ar yr orsedd. Ymhen rhai blynyddoedd lledaenodd y brwydro drwy'r wlad i gyd. Sethrid yr yd dan garnau'r meirch, dioddefai'r tlodion oherwydd prinder bwyd a manteisiai lladron ac ysbeilwyr ar eu cyfle i ladd a difetha. Cyn ddryced pethau ag yr aeth Myrddin at Archesgob Caergaint a gofyn iddo alw'r holl benaethiaid ynghyd i Lundain ddydd Nadolig.
Bore dydd Nadolig yr oedd eglwys gadeiriol Llundain yn llawn o farchogion a phenaethiaid. Ar ôl y gwasanaeth daethant allan i'r fynwent, ac yno, mewn lle agored, safai carreg ysgwâr, enfawr, o farmor, ac arni eingion ddur ryw droedfedd o uchter. Yn yr