Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eingion yr oedd cleddyf llachar, ac ar y garreg y geiriau hyn mewn llythrennau aur: "Y gŵr a dynno'r cleddyf hwn o'r eingion, hwnnw yw gwir frenin Prydain."

Cydiodd pennaeth ar ôl pennaeth yng ngharn y cledd, ond ni fedrai un ohonynt ei symud ddim. Felly gyrrodd yr Archesgob negeswyr allan drwy'r wlad i gyhoeddi y cynhelid chwaraeon a thwrneimant yn Llundain y dydd cyntaf o'r flwyddyn.

Bore'r chwaraeon cyfarfu cannoedd o farchogion ar y maes yn barod i ddangos eu medr a'u gwrhydri. Yn eu mysg yr oedd Syr Ector a'r ddau lanc, Cai ac Arthur. Yn sydyn troes Cai at Arthur.

"Arthur," meddai, "gadewais fy nghleddyf ar ôl yn y llety. Anghofiais ei wisgo yn fy mrys."

"Af i'w nôl ar unwaith," ebr Arthur, a neidiodd ar gefn ei farch.

Pan gyrhaeddodd y llety, yr oedd y drws ar glo, ac er curo a churo nid oedd ateb i'w gael. Cychwynnodd yn ôl yn siomedig, ond ar ei ffordd i'r maes gwelodd y cleddyf yn y fynwent. Rhwymodd ei farch wrth gamfa a brysiodd hyd lwybr y fynwent at y cleddyf. Cydiodd ynddo a thynnodd ef yn rhwydd ddigon o'r eingion. Heb feddwl rhagor am y peth, aeth ag ef i Gai, a gwyddai hwnnw ar unwaith mai'r cleddyf hynod o'r fynwent oedd. Aeth i chwilio am ei dad, Syr Ector, a dywedodd wrtho,

"Syr, dyma'r cleddyf o'r eingion yn y fynwent. Myfi yw gwir frenin y wlad."