Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr unig ateb a wnaeth Syr Ector oedd gorchymyn i Arthur a Chai ei ddilyn i'r eglwys. Yno rhoes law ei fab ar lyfr cysegredig ac erchi iddo ddywedyd ar ei lw sut y daeth y cleddyf i'w feddiant.

"Arthur a'i rhoes imi," ebe Cai.

"Pa fodd y cefaist ti'r cleddyf?" gofynnodd Syr Ector i Arthur.

"Dychwelais i'r llety i geisio cleddyf Cai, ond nid oedd neb yno. Ar y ffordd yn ôl tynnais y cleddyf hwn allan o'r eingion yn y fynwent."

Aeth y tri i'r fynwent a rhoddi'r cleddyf yn ôl yn yr eingion. Er tynnu ohonynt â'u holl egni, ni allai Syr Ector na Chai ei syflyd ddim, ond ildiodd ar unwaith i law Arthur.

Pan glywodd yr Archesgob yr hanes, galwodd y penaethiaid a'r marchogion ynghyd i'r fynwent. Yno yng ngŵydd pawb tynnodd Arthur y cleddyf o'r eingion, ond ni fodlonwyd y penaethiaid eiddigus. Gohiriwyd cyhoeddi Arthur yn frenin hyd y Pasg, a gohiriwyd wedyn hyd ŵyl y Sulgwyn. Ymgynhullodd tyrfa fawr yn y fynwent eto, a cheisiodd llawer un dynnu'r cleddyf o'r eingion. Arthur yn unig a fedrai, a dechreuodd llu o bobl gyffredin weiddi â lleisiau uchel: "Arthur yw ein brenin! Arthur a fynnwn! Coroner Arthur!" Pan glywsant hyn, penliniodd y penaethiaid a'r marchogion o'i flaen, a chymerodd Arthur y cleddyf i'r eglwys, a chan ei ddal i