dro'n ôl, gwneuthum i wregys o'm gwallt fy hun ar ei gyfer."
Agorodd gist a safai wrth y gwely, ac ohoni tynnodd wregys o wallt euraid ag ynddo emau lawer a boglwm o aur pur. Rhwymodd y cleddyf wrtho.
"Cymer di y cleddyf, Galâth," ebe Peredur a Bwrt.
"Gadewch imi geisio cau fy llaw am ei garn yn gyntaf," meddai Galâth.
Cydiodd yn rhwydd yn y carn, ac yna gwregysodd y rhiain y cleddyf amdano. Felly yr urddwyd Galâth yn farchog eilwaith, ac aethant wedyn i'r llong a'u dug yno. Cipiodd y gwynt hwy'n gyflym dros y môr, a glaniasant gerllaw castell lle yr oedd twr o farchogion yn barod i syrthio arnynt. Gorchfygasant y rhai hynny, a chymerodd y tri marchog a'r rhiain bob un farch oddi arnynt.
Bu farw'r rhiain yn fuan wedyn, a rhoes y marchogion hi ar long a'i gorchuddio â phali gloyw-ddu. Llithrodd y llong dros y dŵr a diflannu yn y pellter. Pwy a'i gwelodd ac a aeth iddi ond Syr Lawnslot, ac yno, ymhen ysbaid, y cyfarfu Galâth ag ef. Llawen iawn oeddynt o weld ei gilydd a chael cyfle i adrodd eu helyntion.
"Wedi teithio'n hir ac ymhell," meddai Lawnslot, "deuthum at groes faen, ac yn ei hymyl safai capel hen iawn. Rhwymais fy march wrth bren a chrogais fy nharian ar gangen; yna mentrais at y drws agored. O