Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Galâth, croeso iti!" ebe lleisiau o'r llong. "Buom yn aros yn hir amdanat."

Gadawodd Galâth a'r rhiain eu meirch ar y lan, a mynd i mewn i'r llong. Yno yr oedd Bwrt a Pheredur, a chofleidiodd y marchogion ei gilydd.

"O b'le y daeth y llong ysblennydd hon?" gofynnodd Galâth, gan dynnu ei helm a rhoi ei gleddyf o'r neilltu.

"Ni wyddom ni mwy na thithau," atebodd y ddau arall, "onid Duw a'i gyrrodd yma."

Cydiodd gwynt cryf yn yr hwyliau, a llithrodd y llong fel gwylan dros y môr. Chwaraeai gwrid cyntaf y wawr ar y tonnau, ac chyn hir hwyliasant rhwng dwy graig anferth. Yno yr oedd llong brydferth arall, ac arweiniodd y rhiain y tri marchog ar ei bwrdd. Nid oedd enaid byw ynddi, ac wrth droed gwely o bali cain yr oedd cleddyf â'i lafn hanner troedfedd allan o'r wain. Fflachiai lliwiau lawer o ben ei garn, ond yr oedd y dwrn ei hun a'r wain o groen sarff. Ceisiodd Bwrt a Pheredur afael ynddo, ond ni fedrai llaw un ohonynt gau am ei garn. Yna gwelodd Galâth y geiriau hyn mewn llythrennau aur ar y cleddyf: "Y gŵr a'm gwregysa i, ni phecha, a hwnnw a gydia yn fy ngharn, nis clwyfir gan arf yn y byd."

"Cleddyf santaidd yw hwn â hanes hir iddo," ebe'r rhiain. "Y mae'r gwregys yn llawer rhy wan i'r cleddyf grogi wrtho, ac ordeiniwyd mai merch lân a phur yn unig a allai wneuthur gwregys teilwng iddo. Felly,