Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XI—CÂN Y NIBELUNG

SAIF "Cân y Nibelung" yn llên gynnar yr Almaen fel "Iliad" Homer ymysg y Groegiaid. Ei harwr yw Siegfried, gwron a adnabyddid yn gynharach yng ngherddi a chwedlau Gwlad yr Iâ o dan yr enw Sigurd. Soniasai ugeiniau o ganeuon a storïau am wrhydri Sigurd, a thua'r ddeuddegfed ganrif creodd rhyw fardd di—enw yn yr Almaen y gerdd hir a chyfoethog, "Cân y Nibelung." Ysgrifennwyd hi i lawr yn y drydedd ganrif ar ddeg gan lawer mynach yn yr Almaen, a chanai'r telynorion crwydrol am anturiau Siegfried. Ond fel y llithrai'r blynyddoedd heibio, daeth y beirdd o hyd i destunau newyddion, ac anghofiodd y byd yn lân am Siegfried.

Yn agos i bum cant o flynyddoedd wedyn, yn y ddeunawfed ganrif, darganfu ysgolheigion yn yr Almaen rai o'r hen lawysgrifau. Cyhoeddwyd "Cân y Nibelung" yn llyfr, ond ni chymerodd pobl lawer o sylw ohono ar y cychwyn. Gwrthododd brenin yr Almaen, Ffredrig Fawr, roddi copi o'r llyfr yn ei lyfrgell hyd yn oed. Cyn hir, er hynny, gwelodd y wlad brydferthwch yr hen stori a'r rhamant a oedd o amgylch ei harwr, Siegfried, a daethpwyd i edrych ar y llawysgrif fel un o drysorau mwyaf yr Almaen. Erbyn heddiw ceir y chwedl yn iaith bron bob gwlad,