Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a daeth Siegfried yn enwog hefyd fel arwr dramâu persain y cerddor enwog, Wagner.

Brenin y tir ffrwythlon o amgylch yr afon Rhein oedd Siegmund, tad Siegfried. Yr oedd yn falch iawn o'i fab, gan edmygu ei gorff cryf a'i ysbryd dewr. Nid oedd bachgen yn y wlad a fedrai daflu'r waywffon mor ddeheuig, neu garlamu mor eofn ar farch. Ond cyn hir, fel ambell hogyn cryf yn eich ysgol chwi, dechreuodd Siegfried gymryd mantais ar ei gryfder ac ymddwyn yn gas a chreulon at fechgyn eraill. Curai fechgyn llawer mwy nag ef ei hun yn ddidrugaredd, ac o'r diwedd penderfynodd ei dad ei yrru i ffwrdd i'r goedwig at hen of doeth o'r enw Mimer. Gwyddai'r brenin Siegmund fod y gof yn ddigon cryf a chall i drin y bachgen, ac y rhoddai waith iddo i'w gadw allan o bob direidi.

Gweithiodd Siegfried yn galed yn yr efail am flynyddoedd; chwythai'r fegin fawr bob dydd a churai â morthwyl anferth ar yr eingion. Tyfodd i fyny'n of cywrain a gallai lunio, nid yn unig gleddyfau a gwisgoedd rhyfel, ond hefyd dlysau cain. Gwrandawai'n astud ar gynghorion doeth Mimer, a daeth yntau'n gall a gwybodus. Clywai'r gof hefyd yn adrodd storïau am Frenhinoedd y Folsung, ei gyndadau, ac yn proffwydo y codai Folsung eto i gyflawni gorchestion. "Myfi," meddai Siegfried wrtho'i hun, "fydd y Folsung hwnnw."

Aeth yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a dangosodd