ddau dywysog, Nibelung a Schilbung, yn eistedd ar ochr mynydd yn ffraeo ynghylch y trysor a adawyd iddynt gan eu tad. Yr oedd y trysor hwn yn enwog, a buasai hyd yn oed y duwiau'n ymryson yn ei gylch. Syllodd Siegfried ar y pentyrrau disglair o aur pur, ar y perlau di-rif, ac yn arbennig ar y cleddyf enwog, Balmung. Cynigiodd y tywysogion y cleddyf iddo, os rhannai'r trysor yn deg rhyngddynt. Ceisiodd yntau wneuthur hynny, ond dechreuasant ei felltithio a'i gyhuddo o gadw rhan o'r trysor yn ôl iddo'i hun. Daethant yn ei erbyn gyda deuddeg o gewri ffyrnig o ogof gerllaw, ond cydiodd Siegfried yn y cleddyf, Balmung, a rhuthrodd arnynt. Er bod swynwyr yn gweu niwl trwchus o'i amgylch ac yn galw'r taranau i ysgwyd y mynyddoedd, gorchfygodd y cewri oll a lladdodd y ddau dywysog. Gwyliai corach o'r enw Alberich yr ymladd, gan aros am ei gyfle i syrthio'n llechwraidd ar Siegfried. Gelyn peryglus oedd hwn, oherwydd yr oedd ganddo fantell a'i gwnâi'n anweledig, and gorthrechodd Siegfried ef a chymerodd y fantell oddi arno. Crefodd Alberich arno i beidio â'i ladd, gan addo y rhoddai ei fywyd i wylio'r trysor drosto. Gadawodd Siegfried iddo fyw, ac ni bu gwas ffyddlonach i'w feistr nag a fu Alberich i Siegfried ar ôl hynny.
Derbyniodd pobl y wlad y gwron yn llawen fel eu brenin, a rhannodd yntau lawer o'r trysorau ymysg y milwyr dewraf. Wedi cael trefn ar y wlad, dewisodd