ddeuddeg o'r rhyfelwyr cryfaf i'w ganlyn, a hwyliodd y cwmni dros y môr i'r Iseldiroedd.
Balch iawn oedd ei dad, y brenin Siegmund, o weld Siegfried a'i ddilynwyr dewr, a mawr fu eu croeso yn y llys. Yn y wledd canai'r beirdd am brydferthwch a thynerwch y dywysoges Kriemhild, merch i frenin Bwrgwndi, a gwrandawai Siegfried yn astud arnynt. Daeth hiraeth arno am weld y dywysoges hardd, er i'w dad geisio'i atal, cychwynnodd am Fwrgwndi gyda'i ddeuddeng milwr. Canai'r adar yn y coed, ac nid oedd cwmwl yng nglas y nef uwchben.
Wedi marchogaeth am saith niwrnod, daethant i Worms, prif ddinas Bwrgwndi, a chasglodd y bobl i'r heolydd i syllu ar eu gwisgoedd llachar ac ar yr aur a'r arian a addurnai gyfrwyau'r meirch. Fflachiai tarian a helm yn yr haul, a churai carnau aflonydd y meirch ar y palmant.
O ffenestr ei blas gwyliai'r brenin Gunther, brawd Kriemhild, y dieithriaid yn agosáu, a galwodd Hagen, un o'i farchogion, ato.
"Pwy yw'r gwŷr ysblennydd hyn?" gofynnodd.
"Edrychant fel brenhinoedd," atebodd Hagen. "Ni synnwn i fawr na ddaeth Siegfried, Tywysog yr Iseldiroedd, a'i gymdeithion yma."
"Hwnnw y cân y beirdd amdano?" gofynnodd Gunther. "Y gwron a orchfygodd Wlad y Nibelung?"
"Ie, dywedir iddo'n fachgen ladd draig ffyrnig ac