Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymdrochi yn ei gwaed, fel na all cleddyf frathu ei groen. Gwell iti roi croeso iddo."

Croesawyd Siegfried a'i wŷr gan y brenin, a chynhaliwyd gwledd yn y llys. Trannoeth, trefnwyd twrneimant a chwareuon yn y maes gerllaw, a synnodd pawb wrth weld gwrhydri a nerth Siegfried. O'i ffenestr yn y plas gwyliai'r dywysoges Kriemhild ef, a gwyddai yn ei chalon ei bod yn ei garu.

Er treulio ohono flwyddyn yn y llys, ni welodd Siegfried y dywysoges wyneb yn wyneb. Yna torrodd rhyfel allan rhwng Bwrgwndi a'r Sacsoniaid, a brwydrodd Siegfried yn ddewr ym myddin Gunther. Dug ddau frenin y gelynion yn garcharorion i Worms, a chynhaliwyd gwledd fawr i ddathlu'r fuddugoliaeth. Yn y wledd honno y gwelodd Siegfried y dywysoges Kriemhild am y tro cyntaf. Disgleiriai gemau lawer yn ei gwisg o bali amryliw, ond yr oedd hi'n brydferthach nag un perl, ac yr oedd pob marchog yn y llys yn barod i farw drosti. Ond Siegfried a gafodd yr anrhydedd o'i hebrwng drwy'r neuadd yng ngolwg y milwyr i gyd. Parhaodd y wledd am ddeuddeng niwrnod, a phob dydd cerddai Siegfried wrth ochr Kriemhild, a gwyddai'r holl lys eu bod mewn cariad â'i gilydd.

Penderfynodd y brenin Gunther ennill Brunhild yn wraig. Hi, fel y cofiwch, oedd brenhines Gwlad yr Iâ, a'r unig ffordd i'w hennill oedd cael y gorau arni mewn gorchestion rhyfel. Aeth Siegfried gydag ef dros y môr, ac wedi cyrraedd Gwlad yr Iâ, mewn ofn y safodd