Gunther ar y maes i herio Brunhild. Trwy roddi amdano'r fantell a ddug oddi ar y corach yn Nhir y Nibelung, fe'i gwnaeth Siegfried ei hun yn anweledig, ac ef, nid Gunther, a ddaliai'r darian ac a hyrddiai'r waywffon hir a'r garreg enfawr. Felly yr enillwyd yr ornest, a mawr oedd y llawenydd yn Worms pan gyrhaeddodd y gwroniaid yn ôl a'r frenhines Brunhild gyda hwy.
Priodwyd Siegfried a Kriemhild yn fuan wedyn, a dychwelodd y gwron gyda'i wraig i'r Iseldiroedd. Rhoes Siegmund ei goron i'w fab, ac am ddeng mlynedd teyrnasodd Siegfried yn ddoeth a chyfiawn. Aeth ei glod ar led drwy bob gwlad, ac nid oedd cenedl dan haul mor falch o'i brenin â phobl yr Iseldiroedd.
Yn ninas Worms yr oedd cas ac eiddigedd yng nghalon Brunhild; anfelys iddi hi oedd clywed bod Siegfried yn fwy nerthol ac yn gyfoethocach na'i phriod hi, y brenin Gunther. Cymhellodd y brenin i wahodd Siegfried a Kriemhild i wledd fawr yn y llys yn Worms. Cydsyniodd yntau, a brysiodd deg ar hugain o farchogion ar geffylau heirdd i'r Iseldiroedd i gyflwyno'r neges. Derbyniodd Siegfried y gwahoddiad yn llawen, a chyda mil o wŷr arfog, cychwynnodd tua Worms. Gydag ef yr oedd Kriemhild a'i dad, Siegmund, mawr fu'r croeso a gawsant yn Worms. Neilltuwyd ystafelloedd gwychaf y plas ar eu cyfer, a chynhaliwyd gwledd i ddwy fil o farchogion. Eisteddai'r ddau