frenin, Siegfried a Gunther, yn gyfeillgar ochr yn ochr yn y wledd.
Trannoeth, galwodd utgyrn lawer y gwŷr i'r twrneimant, a gwych oedd yr olygfa ar y maes y tu allan i'r ddinas. Cyflawnodd llawer marchog orchestion yng ngŵydd y rhianedd teg, a chanai clychau'r ddinas yn uchel a llon. Aeth y miri ymlaen am un dydd ar ddeg, ac nid oedd wyneb trist yn holl heolydd Worms.
Ar yr unfed dydd ar ddeg gwyliai Kriemhild a Brunhild y chwareuon gyda'i gilydd.
"Edrych," meddai Kriemhild, "mor ddewr a nerthol yw Siegfried. Saif allan ymysg y milwyr fel y lloer ymysg y sêr."
"Nid yw mor nerthol â Gunther," atebodd Brunhild. "Ef yw'r mwyaf o frenhinoedd byd, a phe dôi angen am hynny, gallai alw ar Siegfried a'i holl farchogion i'w wasanaethu."
Aeth y ddadl rhwng y ddwy yn gweryl, ac yn ei dicter dywedodd Kriemhild wrth y llall mai nerth Siegfried a'i gorchfygodd hi yng Nghwlad yr Iâ. Hir y bu Gunther a Siegfried yn ceisio'u tawelu, ac wedi i'r llid liniaru, cerddai Brunhild yn aflonydd o amgylch ei hystafell. Pwy a ddaeth ati ond y marchog Hagen, a thyngodd lw y deuai o hyd i gynllun i ladd Siegfried. Medrodd gymell y brenin Gunther a rhai o'r marchogion i'w gefnogi, ac yna aeth y bradwr at Kriemhild gan gymryd arno dosturio wrthi. Edrychasai hi ar