Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII−CÂN ROLAND

YN llyfrgell fawr Bodley yn Rhydychen y mae, nid yn unig filoedd ar filoedd o lyfrau, ond hefyd lawer o lawysgrifau gwerthfawr. Yn eu mysg y mae un fach wedi ei phlygu fel llyfr ac ôl bysedd lu ar groen ei dalennau. Yr oedd hon yn ddigon bach i fynd i mewn i boced neu i waled y telynor yn yr hen amser, a gellwch ddychmygu'r cerddor â'i delyn ar ei gefn yn crwydro o gastell i gastell ac o farchnad i farchnad yn Ffrainc. Mewn tref brysur safai yng nghanol y farchnad gan dynnu'r llawysgrif o'i waled a chydio yn ei delyn. Ac arhosai'r bobl a lifai heibio i wrando ar y gân am Roland a brwydr Roncesvalles.

Ym mh'le y mae'r Roncesvalles yma, tybed? Rhwng Ysbaen a Ffrainc, fel y gwyddoch chwi, y mae rhes o fynyddoedd uchel, mynyddoedd y Barwynion, a'u copaon llwm, anial, yn ymgyrraedd i'r nefoedd. Fel y dowch yn is, y mae'r coed pinwydd talsyth ac yna goedwigoedd o ffawydd, deri a phibgnau. Trwy ddyffrynnoedd cul y mynyddoedd hyn, yn yr hen oes, y croesai byddinoedd o Ffrainc i Ysbaen; trwyddynt hefyd y rhuthrai lluoedd arfog y paganiaid, y Saraseniaid, o Ysbaen i Ffrainc. Enw ar un o'r cymoedd hyn yw Roncesvalles. Ar ei lawr gwastad y mae caeau o laswellt ac edrychant yn dlws yn yr haf yn llawn o